Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 8
Mawrth 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i Weinidog yr Economi
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
Gofyn i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru): A yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru yn dilyn y ddamwain angheuol yn Llaneirwg?
4 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
5 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Data biometrig mewn ysgolion
(60 munud)
NDM8131 Sarah Murphy (Pen-y-Bont ar Ogwr)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod yr arfer cyffredinol o gasglu a defnyddio data biometrig mewn ysgolion ledled Cymru yn peryglu data personol a phreifatrwydd plant.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n:
a) sicrhau bod Erthygl 16 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sef hawl plentyn i breifatrwydd, yn cael ei gadarnhau o fewn Cymru;
b) sicrhau bod ysgolion a lleoliadau gofal plant yn defnyddio technolegau nad ydynt yn fiometrig ar gyfer gwasanaethau, yn hytrach na defnyddio systemau biometrig a allai beryglu diogelwch data biometrig plant;
c) sicrhau bod asesiadau risg priodol a phrosesau caffael cwmnïau technoleg mewn lleoliadau addysgol yn cael eu rhoi ar waith;
d) cydnabod y niwed posibl o'r defnydd anrheoledig o ddata biometrig;
e) cydnabod diffyg caniatâd pobl ifanc a phlant o fewn y defnydd cyfredol o ddata biometrig o fewn ysgolion.
Cyd-gyflwynwyr
Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cefnogwyr
Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
6 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau - Y Troad Terfynol? P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru
(60 munud)
NDM8216 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘Y Troad Terfynol? P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Rhagfyr 2022.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Chwefror 2023.
7 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Yr adolygiad ffyrdd
(60 munud)
NDM8218 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi adroddiad panel adolygu ffyrdd Llywodraeth Cymru, Dyfodol Buddsoddiad Ffyrdd yng Nghymru.
2. Yn gresynu at y diffyg ymgysylltu gan y panel adolygu ffyrdd gyda'r cyhoedd, cynrychiolwyr etholedig, awdurdodau lleol, busnesau a'r trydydd sector ac eraill yn ystod yr adolygiad.
3. Yn credu bod argymhellion y panel adolygu ffyrdd i roi'r gorau i fuddsoddi mewn prosiectau ffyrdd hanfodol sydd wedi'u cynllunio i wella diogelwch ar y ffyrdd, mynd i'r afael â thagfeydd, lleihau llygredd aer a sicrhau buddion economaidd yn methu â chyflawni'r seilwaith trafnidiaeth y mae pobl Cymru yn eu haeddu.
Dyfodol buddsoddiad ffyrdd yng Nghymru
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Sian Gwenllian (Arfon)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod yr angen am weithredu beiddgar a radical yn y sector trafnidiaeth i helpu i gyflawni allyriadau sero-net cyn 2050.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i fuddsoddi mwy brys mewn trafnidiaeth gyhoeddus ac isadeiledd cerbydau trydan fel bod gan gymunedau ledled Cymru fwy o fynediad at opsiynau trafnidiaeth carbon isel neu di-garbon.
8 Cyfnod Pleidleisio
9 Dadl Fer
(30 munud)
NDM8217 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Cenedl sy'n cydsefyll: Cymru'n sefyll gyda phobl Armenia
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 14 Mawrth 2023